Annwyl Ysgrifennydd y Cabinet
Diwygio Llywodraeth Leol
Yn dilyn ein sesiwn dystiolaeth gyda chi ar y Papur Gwyn - ‘Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad’, mae'r Pwyllgor yn awyddus i gael eglurhad o rai materion ychwanegol:
· Rhagor o wybodaeth am sut y gwneir y penderfyniad ynghylch systemau etholiadol ar gyfer awdurdodau lleol unigol; pwy fydd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad terfynol a faint o ymgynghori cyhoeddus y gellid disgwyl;
· Rhagor o wybodaeth am y rhesymau pam na fydd newidiadau i'r system etholiadol i awdurdodau lleol yn orfodol ledled Cymru;
· Eglurhad o ran p'un a fydd lleihau'r oed pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau awdurdodau lleol yn benderfyniad i awdurdodau lleol unigol;
· Rhagor o wybodaeth am sut bydd y Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus yn gweithredu o fewn y trefniadau llywodraethu newydd arfaethedig;
· Eglurhad o gymhwysedd staff i gael taliadau diswyddo os cânt eu diswyddo gan awdurdod lleol yn sgil cyfuno gwasanaethau i drefniadau clwstwr ar draws awdurdodau lleol, ond eu bod yna'n cael eu penodi i swydd gyffelyb yn y gwasanaeth rhanbarthol cyfunol.
Gyda llawer o ddiolch
Yn gywir
John Griffiths AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.